Cadeirio T Llew Jones 1958

Show on map Back to item
Map key

Roedd T Llew Jones yn brifathro 42 mlwydd oed pan enillodd y Gadair am y tro cyntaf yng Nglynebwy. Fel y nodir yn y clip du a gwyn hwn o raglen Newyddion y dydd, roedd eisoes yn adnabyddus fel awdur llyfrau plant.

Meddai Alan Llwyd am ei awdl fuddugol: "Yn ei awdl mae T. Llew Jones yn cynnig portread rhamantaidd o dir a phobl y gorllewin. 'Roedd o hefyd wedi gweld problem diboblogi a sylweddolodd fod y ddinas yn annog ieuenctid Cymru.

"Bachwyd yr ymadrodd 'Tua'r Gorllewin' yn yr awdl fel slogan gan genedlaetholwyr mudiad Adfer a geisiai annog y Cymry Cymraeg i ddychwelyd i gefn-gwlad Cymru."

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Thomas Parry, D. J. Davies a Geraint Bowen a'r ail am y Gadair oedd R. Bryn Williams.

Enillodd T Llew Jones y gadair eto y flwyddyn ganlynol yng Nghaernarfon.

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod 1958, ewch i wefan Canrif o Brifwyl.

06/06/2010

No tags

click a tag to see all the other items that share it.
Uploaded by BBC
BBC
on 02/08/2010
Author rating: Authoritative 5/5
Is this Item useful?
2   people found this item useful

Comments

What does this mean to you?

 

Where else can this item be found?

Browse the tabs below to see the collections, trails and groups in which this item is being used.


Share This

Facebook

Twitter

Email


People's Collection Wales

Discover...

  • 38,199 Items
  • 981 Collections
  • 279 Stories
  • 2,557 Contributors

Contribute your own today and Share your story

Register to contribute